Cytundeb Trwydded Defnyddiwr Meddalwedd BYDDWCH CYSTAL Â DARLLEN Y CYTUNDEB TRWYDDED ISOD YN OFALUS CYN LAWRLWYTHO, GOSOD NEU DDEFNYDDIO’R FEDDALWEDD. DRWY LAWRLWYTHO, GOSOD NEU DDEFNYDDIO’R FEDDALWEDD, FE YSTYRIR EICH BOD YN DERBYN YN GYFREITHIOL Y TELERAU AC AMODAU ISOD. OS NAD YDYCH YN CYTUNO Â'R RHAIN, PEIDIWCH Â LAWRLWYTHO, GOSOD NA DEFNYDDIO’R FEDDALWEDD. 1. MEDDALWEDD Mae “Meddalwedd” yn golygu’r rhaglen gyfrifiadurol hon, yn annibynnol ar ei sianel ddosbarthu, h.y. pa un a yw’n cael ei lawrlwytho heb freindaliadau (a all gynnwys data ffont amlinellol, y gellir eu darllen â pheiriant, ac wedi’u hamgodio’n ddigidol fel y maent yn cael eu hamgodio mewn fformat arbennig) neu wedi'i chael ar DVD neu gludydd data ffisegol arall, ynghyd â’r holl godau, technegau, offer meddalwedd, fformat, dyluniad, cysyniadau, dulliau a syniadau sy'n gysylltiedig â’r rhaglen gyfrifiadurol a phob dogfen sy’n gysylltiedig â’r feddalwedd. 2. HAWLFRAINT A HAWLIAU EIDDO DEALLUSOL Cytundeb trwydded yw hwn ac nid cytundeb gwerthu. Mae Konica Minolta Business Solutions Europe GmbH ("Konica Minolta") yn berchen ar, neu wedi cael ei drwyddedu gan berchnogion eraill ("Konica Minolta Licensor"), hawlfreintiau a hawliau deallusol eraill y Feddalwedd, ac mae unrhyw a phob hawl a theitl i’r Feddalwedd ac unrhyw gopi a wneir ohoni yn cael eu cadw gan Konica Minolta neu Konica Minolta Licensor. Ni cheir ar unrhyw achlysur ystyried bod y Cytundeb hwn yn aseinio unrhyw hawlfraint a/neu hawliau eiddo deallusol y Feddalwedd o Konica Minolta neu Konica Minolta Licensor i chi. Ac eithrio fel y nodir yn y Cytundeb hwn, ni roddir unrhyw hawliau i chi i batentau, hawlfreintiau, enwau masnach, nodau masnach (pa un a ydynt yn gofrestredig neu’n anghofrestredig), nac unrhyw hawliau, rhyddfreintiau neu drwyddedau eraill yng nghyswllt y Feddalwedd. Mae'r Feddalwedd wedi’i diogelu gan ddeddfau hawlfraint a darpariaethau cytuniadau rhyngwladol. 3. TRWYDDED Mae Konica Minolta drwy hyn yn rhoi trwydded gyfyngedig, anghyfyngol ac anhrosglwyddadwy i chi ac rydych chi’n cytuno i dderbyn y drwydded hon. Cewch: (i) gosod a defnyddio’r Feddalwedd ar eich cyfrifiadur(on) chi eich hun yn unig wedi’i chysylltu drwy rwydwaith mewnol â chynnyrch y mae’r Feddalwedd hon wedi’i dylunio ar ei gyfer; (ii) caniatáu i ddefnyddwyr y cyfrifiadur(on) a ddisgrifir uchod ddefnyddio’r Feddalwedd, ar yr amod eich bod yn sicrhau bod yr holl ddefnyddwyr hyn yn cydymffurfio â thelerau’r Cytundeb hwn; (iii) defnyddio’r Feddalwedd at eich diben personol neu fusnes arferol eich hun; (iv) gwneud un copi o’r Feddalwedd dim ond ar gyfer gwneud copi wrth gefn neu ar gyfer gosod i gefnogi’r defnydd arferol ac arfaethedig o'r Feddalwedd; (v) trosglwyddo’r Feddalwedd i barti arall drwy drosglwyddo copi o'r Cytundeb hwn a'r holl ddogfennau gyda’r Feddalwedd, ar yr amod eich bod (a) ar yr un pryd, yn gorfod naill ai drosglwyddo i’r cyfryw barti arall yr holl gopïau eraill sydd gennych o’r Feddalwedd neu eu dinistrio, (b) bod trosglwyddo meddiant fel hyn yn terfynu eich trwydded gyda Konica Minolta, ac (c) rhaid i chi sicrhau bod y cyfryw barti arall wedi cytuno i dderbyn telerau ac amodau’r Cytundeb hwn a chytuno i fod yn rhwym wrthynt. Os nad yw’r cyfryw barti arall yn derbyn y telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â throsglwyddo unrhyw gopi o'r Feddalwedd. 4. CYFYNGIADAU (1) Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol heb gael caniatâd ysgrifenedig o flaen llaw gan Konica Minolta: (i) defnyddio, copïo, addasu, uno na throsglwyddo copïau o'r Feddalwedd ac eithrio fel y nodir yma; (ii) peiriannu o chwith (reverse engineering), cydosod o chwith, llunio o chwith na dadansoddi'r Feddalwedd mewn unrhyw ffordd arall oni bai y caniateir hynny gan ddeddfwriaeth; (iii) isdrwyddedu, rhentu, prydlesu na dosbarthu’r Feddalwedd nac unrhyw gopi ohoni; na (iv) tynnu, defnyddio na newid unrhyw nod masnach, logo, hawlfraint na labeli, symbolau, allweddi na hysbysiadau perchenogol eraill yn y Feddalwedd. (2) Rydych yn cytuno na fyddwch yn allforio’r Feddalwedd mewn unrhyw ffurf yn groes i unrhyw reoliadau a deddfau perthnasol sy’n ymwneud â rheolau allforio unrhyw wlad. 5. GWARANTIADAU CYFYNGEDIG Mae’r Feddalwedd yn cael ei darparu i chi “fel y mae” heb unrhyw warantiadau o gwbl. Mae telerau datganedig y Cytundeb hwn yn cymryd lle pob gwarantiad arall, datganedig neu ymhlyg, ac mae Konica Minolta, ei gwmnïau cysylltiedig a Konica Minolta Licensor yn ymwadu â phob gwarantiad yng nghyswllt y Feddalwedd, datganedig neu ymhlyg, gan gynnwys, yn ddigyfyngiad, warantiadau ymhlyg mewn perthynas â marchnadwyedd, bod yn addas i ddiben penodol a pheidio â thorri hawliau trydydd parti. Nid yw ymwadu â gwarantiad drwy hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol. Os na chaniateir yr ymwadiad dan gyfraith berthnasol, dim ond i’r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith y bydd yr ymwadiad yn berthnasol i chi. 6. TERFYN RHWYMEDIAU Ni fydd Konica Minolta, ei gwmnïau cysylltiedig na Konica Minolta Licensor yn atebol byth am unrhyw elw a gollir, data a gollir, nac unrhyw iawndal arbennig, cosbedigol, damweiniol na chanlyniadol anuniongyrchol sy’n deillio o ddefnyddio neu’r anallu i ddefnyddio'r Feddalwedd, hyd yn oed os yw Konica Minolta, ei gwmnïau cysylltiedig, ei gwmnïau ail-farchnata awdurdodedig neu Minolta Licensor wedi cael gwybod am y posibilrwydd o iawndal o'r fath neu am unrhyw hawliad gennych chi yn seiliedig ar hawliad trydydd parti. 7. TERFYNU Cewch derfynu’r drwydded hon unrhyw bryd drwy ddinistrio’r Feddalwedd a phob copi sydd gennych ohoni. Bydd y Cytundeb hwn yn dod i ben hefyd os na fyddwch yn cydymffurfio ag unrhyw rai o’r telerau ynddo. Pan derfynir fel hyn, rhaid i chi ddinistrio pob copi o’r Feddalwedd sydd yn eich meddiant yn syth. 8. Y GYFRAITH SY’N RHEOLI Bydd y Cytundeb hwn yn cael ei reoli gan ddeddfau'r wlad lle gwneir y cyflenwi i'r cwsmer gwreiddiol. 9. TORADWYEDD Os bydd unrhyw lys neu gorff gweinyddu awdurdodaeth gymwys yn dyfarnu bod unrhyw ran neu rannau o’r Cytundeb hwn yn anghyfreithlon neu’n ddi-rym, ni fydd y cyfryw ddyfarniad yn effeithio ar rannau eraill y Cytundeb hwn a byddant yn aros yn eu cyflawn rym a’u nerth fel na phetai’r rhan neu'r rhannau sydd wedi’u dyfarnu’n anghyfreithlon neu’n ddi-rym wedi cael eu cynnwys. 10. HYSBYSIAD I DDEFNYDDWYR LLYWODRAETH YR UNOL DALEITHIAU Mae’r Feddalwedd yn “eitem fasnachol”, fel y mae'r term yn cael ei ddiffinio yn 48 C.F.R. 2.101 (Hydref 1995), sy’n cynnwys “meddalwedd cyfrifiadurol masnachol" a "dogfennau meddalwedd cyfrifiadurol masnachol," fel y defnyddir y cyfryw dermau yn 48 C.F.R. 12.212 (Medi 1995). Yn gyson â 48 C.F.R. 12.212 a 48 C.F.R. 227.7202-1 drwy 227.7202-4 (Mehefin 1995), rhaid i holl Ddefnyddwyr Llywodraeth yr Unol Daleithiau gaffael y Feddalwedd gyda dim ond yr hawliau hynny sydd wedi’u nodi yma. RYDYCH YN CYDNABOD EICH BOD WEDI DARLLEN Y CYTUNDEB HWN, YN EI DDEALL, AC YN CYTUNO I FOD YN RHWYM WRTH EI DELERAU AC AMODAU. NI FYDD Y NAILL BARTI NA’R LLALL YN RHWYM WRTH UNRHYW DDATGANIADAU NEU SYLWADAU ERAILL SY’N ANGHYSON Â THELERAU AC AMODAU’R CYTUNDEB HWN. NI FYDD UNRHYW DDIWYGIAD I’R CYTUNDEB HWN YN EFFEITHIOL ONI BAI EI FOD YN YSGRIFENEDIG AC WEDI’I LOFNODI GAN GYNRYCHIOLWYR AWDURDODEDIG BOB PARTI.